top of page
  • 30020071

Ein Hargymhellion Ffotograffiaeth a Fideograffiaeth ‘Ffeministiaeth Groestoriadol’

Ar gyfer y bobl greadigol yn ein plith, beth am edrych ar rai o'n hargymhellion gweledol i chi ddysgu mwy am y pwnc hwn a sut mae'n parhau i fod yn broblem gyffredin heddiw!


Gallwch ddod o hyd i'r holl destunau isod ar gampws Atrium yng Nghaerdydd neu are-lein ar FindIt


Argymhellion Ffotograffiaeth:


'Letizia Battaglia: Photography as a Life Choice' gan Letizia Battaglia:


Llyfr lluniau a grëwyd o waith y ffotograffydd Sisilaidd, Letizia Battaglia, ffotograffydd Sisilaidd a ddechreuodd ddogfennu effaith y Mafia yn Sisili yn y 1970au.

'The Art of Lee Miller':


Llyfr gwych yn dilyn gwaith a bywyd Lee Miller: gwraig a aeth o fod yn fodel Vogue i ohebydd rhyfel Vogue yn eistedd yn nhwb bath Adolf Hitler. Mae Antony Penrose - mab Miller a chyfarwyddwr archifau Lee Miller - yn cyfeirio at y llyfr fel “yr ysgrifen fwyaf ysgolheigaidd, hygyrch a chyffrous ar Lee Miller hyd yma.”

'Yayoi Kusama' gan Laura Hoptman, Udo Kultermann a Yayoi Kusama:


Weithiau fe'i gelwir yn ‘Princess of Polka Dots’, ac mae Yayoi Kusama yn artist o Japan y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar iechyd meddwl. Mae ei gwaith yn llachar, yn lliwgar ac yn ysgogi’r meddwl, ac mae hi’n artist hynod ddiddorol.

'Women By Women':


Casgliad o ffotograffiaeth erotig a dynnwyd o fenywod gan fenywod, o fewn y cnawdolrwydd a rhywioldeb, dwi'n dod o hyd i fath o ddealltwriaeth rhwng pwnc ac artist.

'Dorothea Lange' gan Mark Durden:

Roedd Dorothea Lange yn un o ffotograffwyr dogfennol benywaidd mwyaf dylanwadol yr Ugeinfed Ganrif - yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Mae hi bellach yn cael ei beirniadu'n aml am ei hagwedd at dynnu lluniau o grwpiau ymylol. Mae’r llyfr hwn yn gasgliad gwych o ysgrifau beirniadol Mark Durden ar Lange a’i hagwedd at ffotograffiaeth.


Argymhellion Fideograffiaeth:


Y ffugddogfennol 'The Watermelon Woman':


Ffugddogfeniad sy'n archwilio cynrychiolaeth ar gyfer lesbiaid du. Mae'n canolbwyntio ar Cheryl, gwneuthurwr ffilmiau lesbiaidd du sy'n ymchwilio i actores ddu o'r 1930au sy'n cael ei hadnabod fel The Watermelon Woman yn unig. Cafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a'i golygu gan Cheryl Dunye, a chafodd ei chydnabod fel y ffilm gyntaf a gyfarwyddwyd gan lesbiad du.


'A Private War' gyfarwyddwyd gan Matthew Heineman:


Gyda Rosamund Pike fel Marie Colvin, mae A Private War yn gofnod anhygoel o flynyddoedd olaf bywyd a gyrfa Marie Colvin fel newyddiadurwr rhyfel. Mae'r ffilm yn ei dilyn hi a'i chydweithwyr trwy barthau rhyfel, yn ogystal ag archwilio PTSD a'r angen am y rhuthr adrenalin o faes rhyfel. Gwneir defnydd o ddeunydd sydd wedi'i archifo drwy gydol y ffilm, gan ddefnyddio cyfweliadau o Colvin yn ogystal â'i throsglwyddiad olaf i sianeli newyddion ar 21 Chwefror 2012, oriau cyn ei marwolaeth.


Mae’n amhosib edrych i ffwrdd o’r sgrin wrth i chi wylio’r rhyngweithio rhwng Colvin a Paul Conroy (chwaraeir gan Jamie Dornan), ffotograffydd rhyfel a aeth ymlaen i ysgrifennu Under the Wire am ei amser gyda Colvin.


'Radioactive' gyfarwyddwyd gan Marjane Satrapi:


Biopic 2019 gyda Rosamund Pike yn serennu fel Marie Sklodowska-Curie. Mae’r ffilm yn dilyn Marie wrth iddi lywio’r byd gwyddoniaeth fel menyw gyda’i gŵr Pierre, gan ddarganfod poloniwm a radiwm cyn ei marwolaeth yn 1934.

19 views
bottom of page